BBC Cymru Fyw

Tân: Dyn yn 'hollol hurt'

Published
image copyright(C) British Broadcasting Corporation
image captionHeddlu: Y Ford wedi ei ddinistrio am 11pm nos Wener.
Mae'r heddlu wedi dweud bod dyn roddodd car ar dân yn "hollol hurt".
Cafodd y Ford, oedd wedi ei barcio tu allan i dŷ yn Fenwick Drive, Wrecsam, ei ddinistrio am 11pm nos Wener.
Llwyddodd y perchennog a chymdogion i atal y tân rhag lledu.
Ym Mawrth daeth i'r amlwg fod 40 o danau wedi eu cynnau'n fwriadol mewn ceir yn y gogledd.
Roedd mwy na hanner ohonyn nhw yn Wrecsam - ac wyth yno o fewn wythnos.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Simon Williams: "Roedd y cerbyd nos Wener ger y tŷ ac onibai am weithred sydyn y perchennog a'i gymdogion, mi fyddai'r canlyniadau wedi bod yn llawer mwy difrifol."
Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.