Joseph yn llorio Morgannwg

Robbie Joseph Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Robbie Joseph: Y bowliwr cyflym yn cymryd 12 wiced

Mae Sir Gaerlŷr wedi ennill o 52 o rediadau yn erbyn Morgannwg yn Grace Road.

Hon oedd eu gêm gyntaf yn ail adran y bencampwriaeth.

Dydd Sadwrn roedd Morgannwg yn cwrso 236 o rediadau ond llwyddodd Robbie Joseph o Antigua i'w llorio.

Fe greodd anhrefn (6-64) wrth i Forgannwg sgorio 183 yn eu hail fatiad.

Eisoes roedd wedi bowlio'n dda i'r tîm cartre (6-47) a chafodd wared ar bedwar batiwr, gan gynnwys Graham Wagg (42) yn eu batiad cynta.

Unwaith

Roedd Morgannwg wedi sgorio cyfanswm o 124 oedd yn golygu eu bod nhw 125 o rediadau ar ei hôl hi.

Dean Cosker (24) a Robert Croft (20) oedd yr unig fatwyr i sgorio mwy na naw o rediadau.

Dim ond unwaith mae Morgannwg wedi ennill yn Grace Road ers 1986.

Cyn y gêm dywedodd capten Morgannwg, Mark Wallace: "Ein nod yw mynd i'r arfer o ennill gan fod hyn wedi bod ar goll yn ystod y blynyddoedd diwethaf."

Carfan Sir Gaerlŷr: Boyce, Smith, du Toit, Sarwan, Cobb, White, Eckersley (wic), Henderson, Naik, Hoggard (c), Malik, Joseph, Wyatt.

Carfan Morgannwg: Rees, Walters, Bragg, Wright, Allenby, Henriques, Wallace (c, wic), Wagg, Croft, Cosker, Waters, Reed.