BBC Cymru Fyw

Caerdydd yn ôl yn y ras wrth drechu Middlesbrough

Published
image copyright(C) British Broadcasting Corporation
image captionJoe Mason yn rhwydo

Middlesbrough 0-2 Caerdydd

Mae Caerdydd yn ôl yn y chwech ucha ar ôl trechu Middlesbrough 2-0 yn Stadiwm y Riverside.

Wedi i Liam Lawrence groesi Ben Turner beniodd yr un gynta ar ôl 11 munud.

Wyth munud yn ddiweddarach yr eilydd Joe Mason rwydodd wedi i Lawrence basio'n grefftus.

Roedd yn hanner trychinebus i Middlesbrough ac yn un gwych i Gaerdydd.

Yn yr ail hanner roedd Middlesbrough ychydig yn well a tharodd Lukas Jutkiewicz y traws ond manteisiodd Caerdydd ar eu goruchafiaeth.

Roedd 17,564 yn gwylio ac yn ystod y gêm roedd y cefnogwyr cartre naill ai fel y bedd neu'n troi yn erbyn eu tîm.

Dywedodd Rheolwr yr Adar Gleision, Malky Mackay, fod "y tri phwynt yn hollbwysig".