Llanw: Achub chwech o gerddwyr yn Rhosili, Penrhyn Gŵyr
- Published
image copyright(C) British Broadcasting Corporation
Cafodd chwech o gerddwyr eu hachub am 4.25pm ddydd Sadwrn wedi i'r llanw ddod i mewn yn Ynysweryn ger traeth Rhosili ym Mhenrhyn Gŵyr.
Roedden nhw yn eu hugeiniau.
Bad achub Horton a Phort Eynon a'u cludodd i'r lan.
Dywedodd Will Parffitt, Rheolwr Shifft Gwylwyr y Glannau yn y Mwmbwls: "Dylai pawb gadw golwg ar amseroedd y llanw cyn mynd i gerdded ar yr arfordir."