Arestio dyn am 'fygwth trais'
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr heddlu wybod am 5.25pm nos Sadwrn fod dyn yn ymddwyn yn amheus
Mae dyn lleol 41 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o feddu ar ddryll gyda'r bwriad o gyflawni trais.
Am 5.25pm nos Sadwrn cafodd yr heddlu wybod fod dyn yn ymddwyn yn amheus ym Mwcle, Sir y Fflint.
Anfonodd yr heddlu dîm arbennig i drafod â'r dyn ildiodd am 8.20pm.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mark Pierce: "Rydym yn ddiolchgar iawn am help y bobl leol a'n partneriaid yn y Gwasanaeth Ambiwlans a Gwasanaeth Tân."