Kidderminster 3-2 Casnewydd

Clwb Pêl-droed Casnewydd Image copyright Other

Kidderminster 3-2 Casnewydd

Llwyddodd Casnewydd i golli'r ornest hon yn erbyn Kidderminster er iddynt fod dwy gôl ar y blaen gyda dim ond pedwar munud o'r gêm yn weddill.

Mae'r canlyniad yn golygu bod yr Alltudion yn dal mewn peryg o golli eu lle yn Uwchgynghrair Blue Square y tymor nesaf.

Sgoriodd Casnewydd ar ôl dim ond 11 eiliad o'r ornest pan rwydodd Luke Reid a dyblodd Sam Foley fantais yr ymwelwyr gydag ergyd nerthol o 20 llath wedi 11 munud.

Roedd hi'n edrych yn debygol y byddai Casnewydd yn cipio'r tri phwynt ond sgoriodd yr eilydd Nick Wright gyda chic o'r smotyn wedi 86 munud.

Penderfynodd y dyfarnwr y byddai wyth munud o amser ychwanegol yn cael ei chwarae a manteisiodd Wright drwy sgorio dwy gôl arall i gipio'r fuddugoliaeth i Kidderminster.

TABL UWCHGYNGHRAIR BLUE SQUARE BET
Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Fleetwood 42 +58 101
2. WRECSAM 41 +49 90
3. Mansfield 43 +32 80
4. Caerefrog 42 +33 73
5. Kidderminster 43 +18 73
-----------------------------------------------------------------------------------------
18. Stockport 43 -19 44
19. CASNEWYDD 41 -10 42
20. Telford 42 -17 42
21. Hayes 43 -30 38
22. Kettering 43 -53 32
23. Darlington 42 -26 31
24.Caerfaddon 43 -47 27