BBC Cymru Fyw

Llanelli yn curo'r Bala oddi cartref

Published
image copyrightNot Specified

DYDD LLUN

Bala v Llanelli
Enillodd Llanelli tri phwynt gwerthfawr oddi cartref yn erbyn Y Bala ddydd Llun gan ymestyn eu mantais dros eu gwrthwynebwyr yn Uwchgynghrair Cymru i saith pwynt.
Rhys Griffiths sgoriodd unig gôl yr ornest gystadleuol hon wedi 24 munud.
Hon oedd yr ail gêm i'r Bala golli dros y Pasg a choronwyd penwythnos diflas i'r tîm o Lan Llyn pan gafodd Mark Jones ei anfon o'r cae ym munud ola'r gêm.
Airbus v Port Talbot
Enillodd Port Talbot bwynt oddi cartref yn erbyn Airbus er iddynt fod dwy gôl ar ei hôl hi wedi 19 munud o'r gêm ddydd Llun.
Mark Cadwallader sgoriodd gôl gynta'r tîm wedi 13 munud a dyblodd Glenn Rule eu mantais chwe munud yn ddiweddarach.
Sgoriodd Martin Rose i Bort Talbot gyda chic o'r smotyn saith munud cyn yr egwyl.
Cafodd Rule ei anfon o'r cae wedi 15 munud o'r ail hanner cyn i Richard Greaves unioni'r sgôr wedi 78 munud.

DYDD SADWRN

Seintiau Newydd 1-1 Llanelli
Collodd y Seintiau Newydd bwyntiau pwysig oherwydd gêm gyfartal yn erbyn Llanelli yn Park Hall.
Llwyddodd Nicky Ward i osgoi tacl cyn sgorio gôl gynnar ond tarodd Llanelli'n ôl wedi i Simon Spender lorio Craig Williams. Rhys Griffiths rwydodd o'r smotyn.
Ar ôl 66 munud cafodd Ashley Evans gerdyn coch ond llwyddodd yr ymwelwyr i wrthsefyll y don er gwaetha 10 o chwaraewyr.
Felly dim ond dau bwynt sy rhwng y Seintiau a Dinas Bangor. Dwy gêm yn weddill a gallai'r gêm rhwng y ddau dîm yng Nghroesoswallt ar diwedd y tymor fod yn hollbwysig.
Canlyniadau Dydd Sadwrn
Prestatyn 2-3 Castell-nedd
Airbus 0-1 Caerfyrddin
Llanelli 1-1 Seintiau Newydd

Canlyniadau Dydd Gwener

Lido Afan 1-6 Y Drenewydd
Bangor 4-2 Bala
Port Talbot 2-1 Aberystwyth
EBRILL 9 2012