Staff canolfannau gwaith i gerdded allan o'u gwaith
- Cyhoeddwyd

Bydd gweithwyr yn y sector cyhoeddus yn cerdded allan o'u gwaith am ddwy awr i gefnogi cyd-weithwyr sydd mewn peryg o golli eu swyddi.
Mae Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) yn honni bod 300 o bobl sydd yn gweithio i gwmni Balfour Beatty yn wynebu cael eu diswyddo'n orfodol gyda'r telerau tâl gwaethaf sy'n cael eu caniatáu'u gyfreithiol.
Bydd pobl sy'n gweithio mewn canolfannau gwaith, swyddfeydd a chanolfannau galwadau yn cerdded allan o'u gwaith am 9.30am ddydd Mawrth a byddan nhw ddim yn dychwelyd tan ddwy awr yn ddiweddarach.
Mae tua 700 o aelodau undeb y PCS yn gweithio i Balfour Beatty fel rhan o gytundeb i ddarparu gwasanaethau sy'n cynnwys teipyddion, negesyddion, a phobl sy'n delio â galwadau ffôn ar gyfer Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU.
Bydd y weithred sy'n cael ei chynnal ddydd Mawrth yn cael ei dilyn gan fwy o weithredoedd diwydiannol gan gynnwys rhoi'r gorau i weithio 'mlaen.
'Gweithlu dwyradd'
Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol y PCS, Mark Serwotka fod yr anghydfod o ganlyniad i "breifateiddio'n creu gweithlu dwyradd".
"Mae'r staff sy'n gweithio i Balfour Beatty yn gweithio ochr yn ochr â gweision sifil ond maent yn cael eu trin yn llawer gwaeth," meddai Mr Serwotka.
"Nid oes unrhyw ymdrech wedi'i wneud i chwilio swyddi eraill ar gyfer y rheiny sy'n wynebu cael eu diswyddo a'r termau diswyddo sy'n cael eu cynnig yw'r rhai lleiaf mae'r cwmni'n gallu cynnig heb dorri'r gyfraith."
Ychwanegodd Mr Serwotka ei fod yn "chwerthinllyd" i dorri staff Canolfannau Swyddi a chanolfannau galwadau'r Adran Gwaith a Phensiynau wrth i ddiweithdra gynyddu.
"Dylai'r llywodraeth greu swyddi i adfywio'r economi nid cyflawni mwy o doriadau."
Gofynnwyd am ymateb Balfour Beatty.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2012