Pryder trigolion Rhuthun ynghylch ffordd gul
- Cyhoeddwyd

Mae trigolion tref yn Sir Ddinbych yn honni y gall rhywun gael ei niweidio'n ddifrifol os na fydd ffordd gul "angheuol" yn cael ei lledaenu.
Mae ymgyrchwyr yn Ffordd Mwrog, Rhuthun, sy'n cynnwys rhan o ffordd y B5105 yn dweud bod rhan o'r ffordd mor gul y mae lorïau yn gorfod defnyddio'r pafin.
Yn ôl un o drigolion y stryd, Caeri Roberts, mae rhai cerddwyr wedi cael eu taro gan ddrychau adain cerbydau.
Bydd swyddogion Cyngor Sir Ddinbych yn cyfarfod â thrigolion i drafod y mater ddydd Mercher.
Lorïau enfawr
Mae BBC Cymru wedi gofyn i'r cyngor am eu hymateb.
Dywed Caeri Roberts y byddai deiseb, sydd wedi ei harwyddo gan ddau gant o bobl, yn cael ei chyflwyno i'r swyddogion yn ystod y cyfarfod.
Mae hi a thrigolion eraill yn honni bod rhan o'r ffordd ger Eglwys Llanfwrog yn rhy gul a'u bod yn beryglus i gerddwyr am fod gymaint o gerbydau yn ei defnyddio.
Dywedodd Ms Roberts ei bod wedi codi'r ddeiseb wedi i'w merch, Megan, 6 oed, bron â chael ei tharo gan gar.
"Mae'r ffordd yn un hen sy'n mynd trwy'r pentref ac mae'n culhau i ffurfio lôn," meddai.
"Mae lorïau enfawr yn teithio ar hyd y ffordd hon ac mae'n rhaid iddynt fynd ar y pafin am nad ydynt yn gallu mynd heibio.
"Rydym wedi colli cyfrif o'r nifer o ddrychau adain ceir sydd wedi cael eu difrodi a'r nifer o bobl sydd wedi cael eu niweidio gan ddrychau adain.
"Mae'r ffordd yn un angheuol ac fe fydd rhywun yn cael niwed difrifol.
"Mae'r cyngor wedi bod o gymorth ac rydym am gyd-weithio gyda nhw."
Yn ddiweddar canfuwyd arolwg y cyngor sir bod, ar gyfartaledd, 3,566 o gerbydau'n defnyddio'n rhan honno o'r ffordd yn ddyddiol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd31 Awst 2011
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2011