BBC Cymru Fyw

Dyn 18 oed gerbron llys ar gyhuddiad o lofruddiaeth

Published
image captionYr heddlu ym Mhentyrch wedi tân mewn byngalo
Mae dyn 18 oed wedi ymddangos gerbron llys ar gyhuddiad o lofruddiaeth.
Cafwyd hyd i gorff David Evans, 64 oed, ym Mhentyrch ger Caerdydd ym mis Ionawr.
Roedd tân wedi bod yn ei gartref.
Fe ymddangosodd Bleddyn Rees King, o ardal Abercynon, o flaen Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth.
Ni chyflwynwyd ple a bydd gwrandawiad arall ar Fai 21.

Straeon perthnasol

  • Holi dyn 18 oed wedi tân angheuol