Dathlu bywyd arwr y Titanic
- Cyhoeddwyd

Mae bywyd un o arwyr y Titanic wedi cael ei ddathlu yn Neganwy ger Conwy.
Cafodd plac ei osod tu allan i hen dŷ Harold Lowe, yr unig swyddog i ddychwelyd at y llong yn ei fad achub er mwyn achub rhagor o deithwyr o'r môr.
Er i Lowe ymddeol yn Neganwy, fe'i magwyd yn y Bermo. Bydd plac ychwanegol, felly, yn cael ei ddadorchuddio ger adeilad harbwr feistr y dref ar Ebrill 15.
Yn 1997, cafodd y Swyddog Harold Lowe ei bortreadu gan yr actor Ioan Gruffydd yn y ffilm Titanic.
Roedd o'n 29 mlwydd oed pan gollodd 1,517 o bobl eu bywydau ar ôl i'r RMS Titanic daro mynydd iâ ar Ebrill 12, 1912.
Mae ei ŵyr, John Lowe, yn dal i fyw yn y tŷ lle bu Harold Lowe fyw am 13 blynedd cyn ei farwolaeth yn 1944 yn 61 oed.
Siarad am ei brofiad
"Dwi ddim yn credu y byddai o eisiau'r holl sylw 'ma, ond mae'n dda ei fod o erbyn hyn," meddai Mr Lowe, ei hun yn gyn gapten llong.
"Casglodd bedwar bad achub, eu clymu at ei gilydd a meddwl, rhaid i mi fynd yn ôl."
Bu farw ei daid pan oedd John Lowe yn faban, ond mae o'n ymwybodol nad oedd o'n hoff o siarad am y trychineb.
"Siaradodd gyda'i fab, fy ewythr, ond 'doedd 'na neb arall i siarad hefo nhw {am y Titanic}", ychwanegodd.
Mae gan John Lowe rai o'r anrhegion o ddiolch a roddwyd i'w daid gan rai oedd wedi goroesi'r trychineb. Maent yn cynnwys cloch a thelesgop, wedi i Harold Lowe wrthod cymryd arian gan un ddynes ddiolchgar.
Cafodd y plac ei gomisiynu gan Grŵp Hanes Deganwy a chafodd ei ddadorchuddio ar Ebrill 10, 100 mlynedd ar ôl i long fwyaf ei chyfnod hwylio allan o borthladd Southampton.
Dywedodd un o aelodau'r grŵp, John Griffiths, fod y Cadlywydd Lowe yn gyn-gynghorydd tref Conwy ac wedi gwirfoddoli fel warden yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
"Mae'r plac yna er mwyn cofio amdano a'i ddewrder," meddai Mr Griffiths.
Ganed Lowe yn Eglwys Rhos, Conwy, ac aeth i'r ysgol yn Y Bermo. Roedd yn Gadlywydd i'r Llynges Frenhinol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac ar ôl ei farwolaeth yn 1944, fe'i claddwyd ym mynwent Llandrillo yn Rhos.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2010
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2004