Sian Rees: O leia' 16 mlynedd o garchar i John Doyle

Golygfa'r damwain a Ms Rees Image copyright bbc
Image caption Darganfu plismyn gorff Ms Rees rhwng y seddi blaen wedi i Doyle gael damwain gyda'i fan

Mae dyn a lofruddiodd ei bartner oriau wedi iddi dderbyn llawdriniaeth am ganser y fron wedi cael ei garcharu am oes.

Tagodd John Doyle, 54 oed, ei bartner, Sian Rees, 50 oed, oedd yn hanu o Aberdâr, yn eu cartref yn Sir Dyfnaint ar Fehefin 30 y llynedd.

Clywodd Llys y Goron Caerwysg fod fan Doyle wedi troi drosodd gyda chorff Sian Rees y tu fewn wrth i Doyle geisio cael gwared â'r corff yn fuan wedi'r llofruddiaeth.

Gwrthododd y rheithgor honiadau Doyle ei fod yn ceisio amddiffyn ei hun.

Cyfreithwraig

Cafodd ei garcharu am o leia' 16 mlynedd.

Darganfu plismyn gorff Ms Rees rhwng y seddi blaen wedi i Doyle gael y ddamwain yn ei fan ar Orffennaf 1.

Honnodd Doyle ei fod wedi lladd ei bartner wedi iddi chwifio cyllell yn ei wyneb.

Clywodd y llys fod Ms Rees, oedd yn gyfreithwraig, wedi derbyn llawdriniaeth am ganser y fron yn Ysbyty Caerwysg ddiwrnod cyn iddi farw.

Ar ôl i Doyle gyrraedd yr ysbyty i'w thywys hi adref dechreuodd y cwpl ffraeo am ei fod yn hwyr ac am ei fod wedi meddwi.

Dywedodd Doyle wrth y llys fod Ms Rees "yn orffwyll ac yn sgrechian" yn ystod y ffrae a'i bod wedi ei fwgwth â chyllell.

Cyfaddefodd Doyle iddo gydio gwddw Ms Rees, gan honni ei fod yn ceisio ei rhwystro wrth iddo geisio cael y gyllell ganddi.

Ond honnodd nad oedd wedi bwriadu lladd Ms Rees, oedd wedi bod yn bartner iddo ers 14 mlynedd.

Penderfynodd y rheithgor wrthod stori Doyle yn unfrydol ar ôl ymgynghori am 10 awr.

Canfu archwiliadau post mortem fod Ms Rees wedi marw tua 12 awr cyn i'w chorff gael ei ddarganfod tu mewn i fan ei phartner.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.