Carchar i ddyn wnaeth ffoi rhag cael ei garcharu am arian ffug
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wnaeth ffoi i Ewrop i osgoi cyfnod yn y carchar wedi cael ei garcharu wedi achos llys yn Yr Wyddgrug.
Cafwyd Eddie Hughes, 51 oed, o'r Wyddgrug, yn euog o fod a 85 o bapurau £20 ffug gwerth £1,700 yn ei feddiant ym mis Awst y llynedd.
Ond fe wnaeth dorri mechnïaeth ym mis Medi gan ffoi i Ynys Rhodes a Thwrci.
Ym mis Mawrth eleni cafodd Hughes ei olrhain i'r Alban lle'r oedd wedi dechrau bywyd newydd.
'Rhaffu celwyddau'
Dydd Mawrth cafodd Hughes ei garcharu am 12 mis am feddu ar yr arian ffug a chafodd ei garcharu am ddau fis am dorri mechnïaeth.
Cyfaddefodd Hughes i'r ddau drosedd.
Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug fod yr heddlu wedi darganfod 85 o bapurau £20 ffug wedi eu cuddio y tu ôl i le tân yng nghartref Hughes ym mis Chwefror 2010.
Wedi iddo gael ei arestio honnodd fod yr arian ffug wedi'u "gosod" yn ei gartref gan ddyn oedd wedi cyflwyno pentwr o arian ffug i'r ardal.
Y pryd hynny gwadodd mai ef oedd yn meddiannu'r arian ond cyfaddefodd i'r drosedd yn y llys ddydd Mawrth.
Dywedodd y Barnwr Mr Wyn Lloyd Jones fod y diffynnydd wedi rhaffu celwyddau yn ystod yr achos llys gafodd ei gynnal y llynedd.
"Ni all y fath hon o drosedd gael ei goddef ac fe fyddan nhw'n cael eu delio'n llym gan y llysoedd."
Ychwanegodd y barnwr fod Hughes yn dioddef o broblemau cyffuriau ac alcohol pan gafodd ei arestio.
Dywedodd Robert Golinski, ar ran y diffynnydd fod Hughes wedi troi ei fywyd o gwmpas er gwell ac wedi ymgartrefu yn Yr Alban.