Hafan i'r wenynen fêl yn nhŷ unos Tŷ Hyll

Tŷ Hyll Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Bydd gwaith atgyweirio yn cynnwys ystafell de newydd a hafan i'r wenynen fêl

Fe fydd gwaith adnewyddu un o dai unnos enwoca' Cymru yn cynnwys ystafell de newydd a hafan i'r wenynen fêl.

Cynaliadwyedd amgylcheddol sydd wrth wraidd yr holl waith atgyweirio sy'n mynd ymlaen yn Nhŷ Hyll ar ochr yr A5 rhwng Capel Curig a Betws-y-coed.

Mae cychod gwenyn yn cael eu gosod yn y gerddi eang a bydd cynnyrch lleol ar werth yn yr ystafell de.

Bydd modd cael gwybodaeth ryngweithiol fel bod ymwelwyr yn gallu dysgu am wenyn mêl a'r amgylchedd.

Caiff ymwelwyr gyfle i wylio a dysgu am y rhywogaeth o dan fygythiad a hefyd flasu cynnyrch mêl lleol.

Fe fydd toeau gwyrdd yn cael eu gosod ar y toiledau compostio newydd er mwyn lleihau'r dŵr fydd yn llifo o'r to yn ogystal ag inswleiddio'r adeiladau a darparu cynefin sy'n gyfeillgar i fywyd gwyllt.

Mae cyfle i ymwelwyr ddysgu am fuddion toeau gwyrdd adeg diwrnod agored ddydd Mercher.

Nawdd

Bydd coed brodorol yn cael eu plannu yng nghoedlannau Tŷ Hyll hefyd.

Mae Cymdeithas Eryri, perchnogion Tŷ Hyll, wedi elwa ar nawdd allanol ar gyfer y fentr hon, gan gynnwys arian Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop.

Bydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri hefyd yn ariannu elfennau, gan gynnwys gosod cychod gwenyn a deunyddiau dehongli.

"Mae'n hanfodol ein bod i gyd yn deall pwysigrwydd y wenynen fêl a'r bygythiadau iddi ac felly mae Cymdeithas Dreftadaeth y Loteri yn falch iawn o gefnogi'r prosiect," meddai Jennifer Stewart, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth Loteri Cymru.

"Bydd yn cynnwys cyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn sesiynau ymarferol a fydd yn sicrhau bod y medrau ymarferol traddodiadol ar gyfer cadw gwenyn yn ffynnu am flynyddoedd lawer."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.