BBC Cymru Fyw

Cwest Brynle Williams i ystyried 'esgeulustod meddygol'

Published
image copyrightNot Specified
image captionDaeth Brynle Williams i'r amlwg fel ymgyrchydd yn erbyn prisiau tannwydd uchel
Fe fydd y cwest i farwolaeth cyn-aelod Cynulliad Ceidwadol Gogledd Cymru yn ystyried y posibilrwydd o esgeulusodd meddygol.
Bu farw Brynle Williams, o Gilcain ger Yr Wyddgrug, o ganser ym mis Ebrill 2011.
Roedd o'n 62 oed.
Mae disgwyl i'r cwest glywed tystiolaeth gan feddygon fu'n rhoi triniaeth iddo fo.
Fe fydd y cwest yn cael ei gynnal ym mis Mai neu fis Fehefin.
Daeth Mr Williams i lygad y cyhoedd fel ymgyrchydd yn erbyn prisiau tanwydd uchel yn 2000 cyn troi i gynrychioli'r gogledd yn 2003.

Straeon perthnasol

  • Ymgyrchydd tanwydd yn AC