Lido Afan 0-2 Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Uwchgyngrhair CymruFfynhonnell y llun, Not Specified

Un gêm oedd yn Uwchgynghrair Cymru nos Fawrth.

Cafodd Aberystwyth daith i lwyddiannus i Lido Afan drwy eu curo o ddwy gôl i ddim.

Roedd y tîm cartref i lawr i 10 dyn ar ôl i Carl Payne dderbyn dau gerdyn melyn o fewn yr hanner awr cyntaf.

Daeth goliau Aberystwyth i Rhydian Davies a Sean Thornton o fewn pum munud ar ôl 20 munud yn yr ail hanner.

Fe wnaeth Daniel Thomas i Lido Afan a Siôn James i Aberystwyth dderbyn cardiau melyn.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Aberystwyth wedi codi i'r 10fed safle, ywchben Caerfyrddin a'r Drenewydd.

Canlyniadau:

Lido Afan 0-2 Aberystwyth

TABL UWCHGYNGRHAIR CYMRU

EBRILL 10 2012

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol