Atal dirywiad glöyn byw yng nghoedwig Clocaenog

  • Cyhoeddwyd
Britheg berlog fachFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Roedd poblogaeth Clocaenog o'r glöyn byw wedi gostwng

Mae cadwraethwyr wedi llwyddo i achub un o rywogaethau'r glöyn byw oedd yn prinhau.

Diolch i waith y cadwraethwyr maen nhw wedi llwyddo i atal dirywiad y fritheg berlog fach yng Nghoedwig Clocaenog gan hybu ei siawns o oroesi.

Roedd poblogaeth Clocaenog o'r glöyn byw wedi gostwng o 2,400 yn 2003 i ddim ond 1,200 yn 2011.

Mae eisoes bron a diflannu yn llwyr mewn rhannau helaeth o Loegr.

Ond mae ymdrechion ar y cyd i wella cynefin y glöyn byw gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru a Chadwraeth Glöyn Byw Cymru wedi arwain at gynnydd yn ei niferoedd yn Sir Ddinbych.

Cofnodwyd dirywiad cyson yn nifer y fritheg berlog fach yng Nghlocaenog dros yr 11 mlynedd diwethaf.

Roedd hyn yn sbardun i Gadwraeth Glöyn Byw Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru sefydlu rhaglen reoli frys.

Daeth contractwyr i mewn i glirio'r tyfiant a'r coed conwydd ar hyd pum cilometr o afonydd a nentydd yn y goedwig.

Creodd hyn gynefinoedd cysgodol, agored gyda fioled y gors (planhigyn bwyd y siani flewog) fel y gall y glöyn fridio a bwydo ynddo unwaith yn rhagor.

'Ardal anferth'

"Mae Coedwig Clocaenog yn ardal anferth gydag amrywiaeth o gynefinoedd yn cynnal llawer o wahanol rywogaethau o fywyd gwyllt," meddai Mike Whitley, rheolwr Comisiwn Coedwigaeth Cymru dros ardal Clocaenog.

"Mae'n wych gweld fod y rhaglen o fantais i gymaint o wahanol rywogaethau, yn enwedig y fritheg berlog fach."

Dywedodd Clare Williams, Swyddog Cadwraeth, Cadwraeth Glöyn Byw Cymru, eu bod yn falch iawn o gydweithio gyda Chomisiwn Coedwigaeth Cymru ar y prosiect ymchwil hir dymor.

"Mae wedi helpu i wella'n dealltwriaeth o sut mae'r glöyn byw'n ymateb i waith rheoli coedwig ar raddfa tirlun.

"Mae'n grêt gallu defnyddio'r ymchwil yma i arwain gwaith rheolaeth yn llwyddiannus i helpu sicrhau y bydd y glöyn byw hardd yn goroesi'n barhaol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol