Rhybudd am achosion o'r frech goch
- Cyhoeddwyd

Mae cyfarwyddwr iechyd cyhoeddus yn ardal Abertawe Bro Morgannwg yn rhybuddio y gallai achosion o'r frech goch ddod i'r amlwg o ganlyniad i nifer isel y rhai sydd wedi derbyn brechiadau.
Yn ôl y bwrdd, mae'r ffigyrau diweddara ar gyfer siroedd Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd, yn nodi nad yw 14.6% o blant pump oed wedi cael yr un dogn o'r brechiad MMR neu ddim ond un.
Mae hyn yn golygu bod dros 800 o blant yr ardal heb gael eu himiwneiddio.
Dyw'r nifer yma ddim yn ddigon i atal achosion o'r haint.
Daw'r rhybudd gan Dr Sara Hayes wrth i nifer yr achosion o'r frech goch yng ngogledd Cymru fod dros 40.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i ymchwilio i nifer yr achosion sy'n gysylltiedig gydag Ysgol Eifionydd ym Mhorthmadog.
Dau ddogn
Gan fod nifer y rhai sydd wedi eu brechu yn ardal Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg yn is na'r targed fe allai'r un math o sefyllfa ag a gafwyd yn ardal Porthmadog ddigwydd yn ne Cymru.
"Mae'n rhaid i bob plentyn dderbyn dau ddogn o'r brechiad MMR sy'n gwarchod plant rhag y frech goch, rwbela a chlwy'r pennau," meddai.
"Hyd nes bod 95% o blant wedi derbyn y ddau ddogn mae'r risg o nifer o achosion yn uchel.
"Er y dylai plant dderbyn y dogn cyntaf tua 12 mis oed a'r ail yn 40 mis oed, dyw hi byth yn rhy hwyr i gael eich brechu.
"Er mwyn atal cyfres o achosion yn ardal Abertawe Bro Morgannwg, dwi'n annog rhieni plant sydd heb dderbyn y brechiad llawn i drafod gyda'u meddygon teulu cyn gynted â phosib."
Dywedodd Dr Richard Roberts o Iechyd Cyhoeddus Cymru fod y frech goch yn hynod heintus a gall fod yn ddifrifol iawn.
"Mae'r achosion yn y gogledd yn dal i gael effaith ar blant," meddai.
Difrifol
"Os all ddigwydd yno, gall ddigwydd mewn unrhyw ysgol yng Nghymru.
"Er bod y nifer sy'n cael eu brechu yng Nghymru wedi gwella dros y 10 mlynedd diwethaf, mae miloedd o blant yn dal i gychwyn yr ysgol heb gael eu hamddiffyn rhag dal y frech goch, rwbela a chlwy'r pennau.
"Bydd miloedd yn gadael yr ysgol yr un cyflwr bregus.
"Mae MMR yn frechiad diogel ac effeithiol sy'n amddiffyn plant rhag clefyd mwyaf difrifol plentyndod."
Ychwanegodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod un o bob 15 o bobl a fydd yn diodde' o'r frech goch yn datblygu cyflyrau mwy difrifol all arwain at ffitiau a niwed i'r ymennydd.
Gall y frech goch fod yn angheuol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2012