Y pêl-droediwr Ched Evans yn gwadu treisio dynes 19 oed
- Cyhoeddwyd

Mae dau bêl-droediwr, gan gynnwys un o chwaraewyr rhyngwladol Cymru, wedi gwadu treisio dynes oedd wedi meddwi.
Yn Llys y Goron Caernarfon mae chwaraewr Cymru a Sheffield United Ched Evans ac amddiffynnwr Port Vale Clayton McDonald, y ddau yn 23 oed, wedi gwadu'r ymosodiad yn y Premier Inn yn Rhuddlan ger Y Rhyl.
Clywodd Llys y Goron Caernarfon ddydd Mercher fod y ddau'n cyfadde' iddyn nhw gael rhyw gyda'r ddynes 19 oed.
Dywedodd yr erlynydd, John Philpotts, ei bod hi'n rhy feddw i gydsynio.
Clywodd y llys fod trydydd dyn yn ceisio ffilmio'r olygfa drwy ffenest gwesty ar ffôn symudol.
Dywedodd yr erlynydd fod Mr Evans, o Penistone, De Sir Efrog, a Mr McDonald o Crewe yn Sir Gaer wedi dweud wrth yr heddlu eu bod wedi cael rhyw gyda'r achwynydd nad oes modd ei henwi am resymau cyfreithiol.
Ffilmio
Clywodd y llys fod Jack Higgins, rhywun yr oedd y pêl-droedwyr yn ei adnabod, a Ryan Roberts, brawd Mr Evans, yn gwylio drwy ffenestr adeg yr ymosodiad honedig.
Roedd tystiolaeth ar ffôn Mr Higgins yn dangos ei fod wedi bod yn ffilmio neu'n ceisio ffilmio'r digwyddiad, meddai.
Clywodd y rheithgor fod y ddau ddiffynnydd wedi treulio nos Sul, Mai 29, 2011, yn cymdeithasu yn Y Rhyl.
Yn oriau mân bore Llun fe aeth Mr McDonald i mewn i dacsi yr oedd yr achwynydd wedi ceisio ei ddal.
Aeth â'r ddynes, yr oedd Mr McDonald wedi ei gweld yn syrthio mewn siop cebab, i westy'r Premier Inn wrth iddo ddweud wrth rywun ar ei ffôn: "Mae gen i ferch".
Roedd yr achwynydd wedi bod yn yfed gwin, fodca a lemonêd a chlywodd y rheithgor iddi gael Sambuca hefyd.
Roedd aelod staff yn nerbynfa'r gwesty wedi dweud bod y ddynes yn "feddw iawn" - ddim yn cerdded yn syth ac yn siarad yn aneglur.
Yn fuan wedyn, fe wnaeth Mr Evans, yn wreiddiol o Lanelwy, gyrraedd y dderbynfa a gofyn am allweddi i ystafell tra bod dau ddyn arall yn aros y tu allan.
'Targed'
Dywedodd Mr Philpotts fod Mr Evans wedi llogi ystafell yn unswydd er mwyn mynd â merch yno.
"Roedd yntau a Clayton McDonald yn chwilio am unrhyw ferch oedd yn addas a hi oedd y targed," meddai.
Ar ôl i Mr Evans fynd i'r gwesty, clywodd y llys bod aelod staff y dderbynfa wedi penderfynu mynd i weld beth oedd yn digwydd yn yr ystafell.
"Doedd hi ddim yn anodd dyfalu," meddai Mr Philpotts.
Clywodd y llys fod yr aelod staff wedi gweld dau ddyn y tu allan yn gwylio'r hyn oedd yn digwydd yn yr ystafell drwy ffenestr.
Heb gydsynio
Dywedodd Mr Evans a Mr McDonald yn ddiweddarach wrth yr heddlu eu bod wedi cael rhyw gyda'r ddynes ar wahân.
Mae'r erlyniad wedi dweud na wnaeth hi gydsynio'n llwyr."Doedd hi ddim mewn unrhyw fath o stad i roi caniatâd," meddai.
Ar ôl yr ymosodiad fe adawodd Mr McDonald drwy'r dderbynfa gan ddweud wrth y staff: "Wyddoch chi'r ferch oedd gyda mi? Cadwch lygad arni, mae'n sâl."
Dywedodd Mr Philpotts ei fod yn gwybod ei bod wedi meddwi.
Dywedodd hefyd bod Mr Evans wedi gadael drwy'r allanfa dân.
Mae disgwyl i'r achos barhau tan yr wythnos nesaf.