Lloyd Burns yn ymddeol o rygbi oherwydd anaf i'w wddw
- Cyhoeddwyd

Mae bachwr Cymru a'r Dreigiau, Lloyd Burns, wedi gorfod ymddeol o chwarae rygbi oherwydd anaf yn 27 oed.
Mae'r chwaraewr wedi cael anaf i'w wddw ac mae hefyd yn wynebu llawdriniaeth ar ei galon.
Dydi Burns ddim wedi chwarae ers mis Ionawr oherwydd yr anaf.
Mae profion yn dangos ei fod wedi niweidio ei aorta.
Fe enillodd saith cap dros Gymru gan gynnwys pedwar yng Nghwpan y Byd yn Seland newydd.
Yno y sgoriodd ei unig gais dros Gymru, yn erbyn Fiji.
Cafodd ei gap cyntaf yn erbyn Y Barbariaid ym mis Mehefin 2011.
Cefnogaeth
"Mae'r ffaith ei fod wedi gorfod ymddeol wedi dod fel sioc i Lloyd ac i'w deulu," meddai Cyfarwyddwr y Dreigiau, Robert Beale.
Cyn ymuno gyda'r Dreigiau, roedd Burns yn chwarae i Cross Keys.
Mae o wedi cynrychioli'r Dreigiau 33 gwaith.
Briciwr oedd Burns cyn troi at Y Dreigiau a chael ei enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer Seland Newydd.
Dau sydd wedi cysylltu drwy wefan Twitter i roi cefnogaeth i Burns yw Capten Cymru Sam Warburton a'r canolwr Jamie Roberts.
"Mae hyn yn newyddion ofnadwy, chwaraewr gwych a dyn arbennig. Gobeithio y bydd yn gwella," meddai Warburton.
Dywedodd Roberts, sydd ei hun yn gwella o lawdriniaeth i'w ben-glin, fod y cyhoeddiad yn newyddion trist iawn.
"Chwaraewr a dyn gwych iawn....pob gwellhad buan."
Dywedodd Beale bod gwaith caled ac ymroddiad Burns wedi arwain at ei lwyddiant.
"Dwi'n hynod falch bod cyflwr difrifol iawn wedi ei ganfod oddi ar y cae chwarae ac rydym am ddiolch i staff meddygol y Dreigiau, staff Ysbyty Brenhinol Gwent ac Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd am eu hymdrechion i sicrhau bod Lloyd wedi cael ac y bydd yn parhau i gael y gofal iechyd ucha' posib," ychwanegodd.