Damwain i Warren Gatland yn golygu y bydd rhaid iddo gael llawdriniaeth
- Cyhoeddwyd
Fe fydd yn rhaid i Warren Gatland gael llawdriniaeth i'w sawdl ar ôl damwain tra ar wyliau yn ôl adre yn Seland Newydd.
Roedd yr hyfforddwr 48 oed wedi dychwelyd i Seland Newydd ar ôl i Gymru ennill y Gamp Lawn fis Mawrth.
Er hynny mae disgwyl iddo deithio gyda charfan Cymru gyfer y tair gêm brawf i Awstralia tra bydd yn gwella.
Mae Gatland wedi cael anafiadau i'w ddwy sawdl wrth wneud gwaith ar ei gartref.
Yn ôl datganiad gan Undeb Rygbi Cymru fe fydd paratoadau'r garfan ar gyfer y daith i Awstralia yn cael eu gwneud gan gynorthwywyr Gatland tra ei fod yn gwella.
"Oherwydd anafiadau i'w goes mae Warren Gatland yn aros yn Seland Newydd yn hirach na'r disgwyl," meddai datganiad gan undeb Rygbi Cymru nos Fercher.
Llawdriniaeth
"Cafodd yr anafiadau wrth wneud gwaith ar ei gartref yn Waihi Beach tua 8.30am (amser lleol) ddydd Llun Y Pasg.
"Roedd yn glanhau ffenestri ar y pryd pan gollodd ei gydbwysedd a syrthio tair meter a glanio ar ei draed ar goncrit.
"O ganlyniad i'w anafiadau mae ei goes mewn plastr a bydd yn cael llawdriniaeth gan arbenigwr orthopaedig yn Waikato i ail-adeiladu ei sawdl dde."
Dywedodd y datganiad nad oes disgwyl i'r anafiadau gael effaith ar y paratoadau ar gyfer gemau Cymru ym mis Mehefin.
Tra'n aros yn Seland Newydd fe fydd Gatland yn derbyn gwybodaeth gan Rob Howley, Robin McBryde, Shaun Edwards a Neil Jenkins wrth iddyn nhw gadw golwg ar y garfan a chwaraewyr posib dros yr wythnosau nesa'.
Bydd gwybodaeth bellach yn cael eu hanfon ato hefyd o ran ffitrwydd a chyflwr meddygol y chwaraewyr.
Yr hyfforddwr cynorthwyol, Rob Howley fydd yn ymgymryd â'r gwaith rheoli hyfforddwyr o ddydd-i-ddydd yng Nghymru a'r cyswllt pwysig rhwng y staff Gatland yn ei absenoldeb.
Fe fydd rheolwr y tîm yn darparu unrhyw wybodaeth bellach.
Mae Prif Weithredwr Undeb rygbi Cymru, Roger Lewis, wedi cymeradwyo'r cynlluniau dros dro.
Dychwelyd
Dywedodd y datganiad nad ydyn nhw fel undeb yn teimlo rheidrwydd i benodir penodi prif hyfforddwr dros do, ond petai rhaid, mae'r prif weithredwr a Gatland yn fodlon cymeradwyo enw Howley i Fwrdd yr Undeb.
Er y bydd yn rhai wythnosau cyn y bydd Gatland yn gwella yn llwyr mae disgwyl iddo ddychwelyd i'w ddyletswyddau hyfforddi cyn y bydd ei gyfnod gwella wedi ei gwblhau.
"Rydym yn dymuno gwellhad buan iawn i Warren o'i anafiadau," meddai Roger Lewis.
"O adnabod Warren, gallaf sicrhau'r cefnogwyr ei fod wedi gosod cynllun at ei gilydd fel ei fod yn gallu cadw mewn cysylltiad agos gyda'r hyn sy'n digwydd yma yng Nghymru.
"Dwi wedi siarad gyda fo ar sawl achlysur ers ei ddamwain ac wedi dweud y bydd yn arwain y daith i Awstralia oni bai bod rhywbeth yn digwydd i arwain at oedi pellach."
Ar ôl llwyddiant Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni roedd Gatland yn cael ei enwi fel yr hyfforddwr nesa' y Llewod fydd yn teithio i Awstralia yn 2013.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2011