Tân: Triniaeth am effeithiau anadlu mwg

Mae un person wedi cael triniaeth am effeithiau anadlu mwg wedi tân mewn tŷ yn Abertawe.

Bu'n rhaid i ddiffoddwyr tân dorri i mewn i'r adeilad yn Ffordd Cwm, Hafod, wedi iddyn nhw gael galwad gan un o drigolion y stryd.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw toc wedi 5am fore Iau.

Yn ôl y gwasanaeth tân dim ond un person oedd yn dioddef o effeithiau anadlu mwg.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.