BBC Cymru Fyw

Gwasanaethau llygad yn cychwyn yn Ysbyty Abergele

Published
image copyrightBBC news grab
image captionBu Ysbyty HM Stanley'n darparu triniaeth llygaid am bron i 60 mlynedd
Mae gwasanaethau llygad a ddarparwyd yn Ysbyty HM Stanley yn Llanelwy tan yn ddiweddar yn cychwyn yn eu cartref newydd ddydd Llun.
I ddechrau bydd yr uned yn Ysbyty Abergele yn cael ei lleoli ochr wrth ochr â'r gwasanaeth orthopaedeg i gleifion mewnol.
Ond unwaith y bydd y gwaith o dynnu asbestos yn Ysbyty Glan Clwyd wedi'i gwblhau, bydd y gwasanaeth orthopaedeg yn symud yno gan ganiatáu i'r gwasanaethau llygad ehangu yn Abergele.
Bydd yr uned newydd yn cynnwys ystafelloedd triniaeth Macwlaidd (IVT), ardal gofal cychwynnol, adran cleifion allanol, uned gofal dydd a dwy theatr.
Bydd y rhain yn darparu ychydig o'r dechnoleg ddiweddaraf ar gyfer gwasanaeth llygad cynhwysfawr, gan gynnwys triniaeth frys, i drigolion Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a'r ymwelwyr a gwasanaethau llawfeddygol retinol arbenigol ar draws Gogledd Cymru.
Er y bydd triniaeth frys yn cael ei chynnal yn yr uned, ni fydd gwasanaeth 'cerdded i mewn' ar gyfer achosion brys yn Abergele.
Dylai achosion brys y tu allan i oriau gysylltu â'r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Glan Clwyd.

Straeon perthnasol

  • Symud gwasanaeth llygaid o HM Stanley i Abergele