Dilyn ôl troed?

George North Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Yn ôl George North, roedd Coleg Llanymddyfri "yn lle gwych i gyfuno addysg a rygbi"

Mae rhanbarth rygbi yn bwriadu cynnig addysg a hyfforddiant i fachgen ysgol yn flynyddol.

Bydd yr ysgoloriaeth, partneriaeth rhwng Coleg Llanymddyfri a'r Scarlets, yn gyfle i chwaraewr rygbi dawnus yn ei arddegau gael ei addysg yn yr ysgol fonedd yn Sir Gâr a derbyn hyfforddiant yn Academi'r Scarlets yn Llanelli.

Cymwynaswr dienw â chysylltiadau agos â'r ysgol a'r tîm rygbi sy'n ariannu'r cynllun.

Mae nifer o chwaraewyr rhyngwladol wedi bod yng Ngholeg Llanymddyfri, gan gynnwys Vivian Jenkins, Gwyn Jones, George North ac Andy Powell.

Euraid

Bu hyfforddwr Llanelli a'r Llewod, Carwyn James, yn dysgu a hyfforddi rygbi yno am gyfnod.

Dywedodd cyfarwyddwr rygbi Llanymddyfri, Iestyn Thomas, fod yr ysgoloriaeth yn gyfle euraid i chwaraewyr o bedwar ban byd sy'n gymwys i chwarae dros Gymru.

Dywedodd Pennaeth Datblygu Rhanbarthol y Scarlets, Gareth Jenkins: "Mae gan y Scarlets feddylfryd sefydledig o ddatblygu talent Gymreig yn ein rhanbarth ac mae hwn yn gyfle arall i chwaraewyr dawnus y dyfodol, sydd efallai yn byw y tu allan i Gymru, i ddychwelyd i Gymru i serennu ar y cae rygbi."

Dechreuodd George North ei yrfa rygbi yng ngogledd Cymru ond cafodd fwrsari i astudio yng Ngholeg Llanymddyfri wrth iddo fod yn rhan o gynllun datblygu'r Scarlets.

"Roedd Coleg Llanymddyfri yn lle gwych i gyfuno addysg a rygbi ac rwy'n ddiolchgar iawn i bawb yno am fy helpu i gyflawni fy mreuddwyd o chwarae rygbi rhyngwladol," meddai.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.