Gwadu llofruddio wedi marwolaeth mam ifanc ym Mhenygroes

Emma Louise Jones Image copyright Other
Image caption Roedd Emma Louise Jones yn fam ac yn 31 oed

Yn Llys y Goron Caernarfon mae dynes 23 oed wedi gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth neu ddynladdiad.

Mae disgwyl i'r achos yn erbyn Alwen Eluned Jones o Ger y Llan, Llanllyfni, gael ei gynnal ym mis Hydref.

Mae hi wedi ei chyhuddo o lofruddio Emma Jones, 31 oed.

Cafodd y fam ifanc ei thrywanu ym Mhenygroes ar Ragfyr 10, 2011.

Aed â hi ar frys i'r ysbyty ym Mangor ond bu farw'n ddiweddarach.

Ar ôl gwrandawiad hanner awr pan roddodd y Barnwr Merfyn Hughes QC gyfarwyddyd i'r cyfreithwyr, cafodd Ms Jones ei chadw yn y ddalfa.

Roedd Ms Jones yn gynorthwyydd arlwyo canolfan addysgol yn Nantlle.