Llys yn clywed bod dynes 'wedi deffro'n noeth a dryslyd'
- Cyhoeddwyd

Mae achos dau bêl-droediwr ar gyhuddiad o dreisio wedi clywed bod dynes wedi deffro "yn noeth ac yn ddryslyd' mewn gwely dwbl.
Eisoes mae chwaraewr Cymru a Sheffield United, Ched Evans, ac amddiffynnwr Port Vale, Clayton McDonald, y ddau'n 23 oed, wedi gwadu'r ymosodiad yng ngwesty'r Premier Inn yn Rhuddlan ger Y Rhyl.
Gwyliodd y rheithgor gyfweliadau fideo yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Iau.
Ynddyn nhw mae'r ddynes, sy'n 20 oed erbyn hyn, wedi dweud na all gofio beth ddigwyddodd a'i bod hi'n poeni bod rhywun wedi ymyrryd â'i diod.
Dywedodd ei bod wedi yfed pedwar fodca dwbl gyda lemonêd a Sambucca ym mar Zu yn Y Rhyl ym mis Mai 2011.
Cyffuriau
Cyafeddefodd wrth yr heddlu ei bod wedi cael diferyn yn ormod ond nad oedd hi "allan o reolaeth".
"Dwi fel arfer yn yfed mwy na hynny," meddai.
"Ond dwi ddim wedi pasio allan o'r blaen na methu cofio dim."
Clywodd y rheithgor ei bod yn gwadu cymryd cyffuriau y noson dan sylw ond yn cyfaddef ei bod wedi cymryd cocên a chanabis o'r blaen.
Dywedodd nad oedd yn cofio gadael y bar ond ei bod yn "hannercofio bod mewn siop cebab".
Roedd yn cofio ceisio dal darn o pizza dyn, meddai. "Mae'r cyfan yn annelwig. Dwi'n cofio bod yno a bwyta pizza."
Yn y cyfweliad fideo cyfaddefodd nad oedd yn cofio teithio i'r gwesty ond ei bod wedi deffro yno yn noeth ac mewn gwely dwbl.
Cael rhyw
"Roedd fy nillad ar y llawr. Dwi ddim yn gwybod sut y cyrhaeddes i yno na chwaith a oeddwn i wedi mynd yno gyda rhywun. Roeddwn i'n ddryslyd."
Ar y pryd ei hymateb oedd "eisiau gadael yr ystafell a ffeindio allan sut y cyrhaeddais i yno".
Mae'r llys wedi clywed bod Mr Evans, o Penistone, De Sir Efrog, a Mr McDonald o Crewe yn Sir Gaer wedi dweud wrth yr heddlu eu bod wedi cael rhyw gyda'r achwynydd nad oes modd ei henwi am resymau cyfreithiol.
Ond mae'r erlyniad wedi honni nad oedd hi mewn stad i gydsynio.
Mae disgwyl i'r achos barhau tan yr wythnos nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2012