Corff dynes mewn cronfa ddŵr

Mae'r heddlu yn ymchwilio ar ôl i gorff dynes gael ei ddarganfod mewn cronfa ddŵr yng Nghwm Elan.

Credir bod y ddynes yn ei 70au.

Cafwyd hyd i'r corff gan rywun oedd yn pasio heibio Cronfa Ddŵr Caban Coch am 6.50am ddydd Iau.

Mae'r heddlu yn ymchwilio i'r amgylchiadau.

Maen nhw'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth a fyddai yn berthnasol i gysylltu gyda'r heddlu yng ngorsaf yr heddlu yn Llandrindod.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.