Morgannwg yn sgorio llai na 100

Parhaodd y wicedi i gwympo ar ail ddiwrnod gêm bencampwriaeth Morgannwg yn erbyn Sir Derby yn Stadiwm Swalec ddydd Gwener.

Erbyn y prynhawn roedd Sir Derby wedi sgorio 54 am bum wiced yn eu hail fatiad ar ôl bowlio Morgannwg am 95.

Mae'r ymwelwyr 89 rhediad ar y blaen gyda phum wiced mewn llaw.

Moises Henriques oedd prif sgoriwr y tîm cartref (16) wrth i Jonathan Clare (5-17) a Tony Palladino (3-34) lwyddo i ffrwyno batwyr Morgannwg.

Tarodd Morgannwg yn ôl yn y prynhawn pan gymerodd Henriques dair wiced am 19 rhediad oddi ar 12 pelawd.

Morgannwg: Rees, Walters, Bragg, Wright, Allenby, Henriques, Wallace (c, wic), Wagg, Croft, Cosker, Reed

Sir Derby: (Batiad cyntaf): 130

(Ail fatiad): 54-5

Morgannwg: (Batiad cyntaf) 95

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.