Protestwyr yn erbyn cau llethr sgïo Plas y Brenin yno o hyd

Rhai o'r protestwyr ar y llethr sgio ym Mhlas Y Brenin Image copyright Other
Image caption Rhai o'r protestwyr ar y llethr sgïo ym Mhlas Y Brenin

Am yr ail noson mae gwrthdystwyr, gan gynnwys plant a phobl ifanc, yn gwersylla oherwydd penderfyniad i gau llethr sgio.

Caeodd y llethr yng nghanolfan Plas y Brenin, Capel Curig, fis Mawrth, wythnosau yn gynt na'r disgwyl.

Mae'r rheolwyr wedi dweud y byddai llethr newydd yn costio gormod.

Cyrhaeddodd y protestwyr y ganolfan brynhawn Mercher.

Mae dyfodol y llethr sgïo wedi bod yn y fantol ers sawl blwyddyn a chyhoeddwyd ym mis Mawrth y byddai'n cau ddiwedd mis Ebrill.

Ond cafodd wyneb y llethr ei ddifrodi oherwydd y tywydd.

Dros nos roedd dwsin o bebyll a 10 o bobl ifanc yn gwersylla.

'Achub'

"Roedd 'na hyd yn oed rhew ar y babell," meddai Ciara, 14 oed. "Ond rydan ni wir eisiau achub y llethr.

"Dwi wedi bod yn dod yma ers yn fach iawn a ddim eisiau ei gweld hi'n mynd.

"Dwi'n dod yma bob wythnos ac mae'n llethr sgïo bwysig.

Image copyright Other
Image caption Roedd y tywydd wedi difrodi wyneb y llethr yn ddiweddar

"Mae'r olygfa mor drawiadol."

Dywedodd un o'r plant ei bod yn bwriadu dod â'i dillad ysgol i'r babell yr wythnos nesaf pan fydd y tymor ysgol yn ail ddechrau.

Mae Martin Doyle, prif weithredwr y ganolfan, wedi dweud bod tyllau ar wyneb y llethr oherwydd tywydd gwael.

"Ers hynny mae'r llethr wedi gorfod cau ... mae wedi cyrraedd diwedd ei hoes."

Gostwng

Dywedodd y byddai cost un newydd rhwng £600,000 a £700,000 ond mae protestwyr wedi honni y byddai'n costio hyd at £120,000.

Sport England a'r Ymddiriedolaeth Hyfforddi Mynydd benderfynodd gau'r llethr.

Dywedodd Charles Johnson, Cyfarwyddwr Eiddo Sport England, fod nifer y defnyddwyr wedi gostwng yn sylweddol i hyd at 30 y mis.

"Oherwydd y gostyngiad a'r difrod diweddar does dim rheswm i wario arian sylweddol."

Mae'r llethr wedi bod yn atyniad yn y ganolfan ers y 1960au.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.