Dathlu deng mlynedd ers darganfod llong yng Nghasnewydd

Gweithio ar y llong Image copyright Other
Image caption Darganfuwyd y llong ym Mehefin 2002

Mae prosiect i gynnal hen long a ddarganfuwyd yng nglannau'r afon Wysg ddeng mlynedd yn ôl yn symud ymlaen i'r cam nesaf.

Bydd y prennau a ddarganfuwyd yn cael eu sychrewi mewn peiriant wedi ei wneud yn benodol ar gyfer y dasg hon.

Daethpwyd o hyd i'r hen long, sy'n dyddio'n ôl i'r Canol Oesoedd, wrth adeiladu theatr Glan yr Afon yng Nghasnewydd.

Cafodd ei ddatgloddio gan dîm o archeolegwyr a'i godi o'r ddaear fesul styllen.

Suddo

Dywedodd Curadur y llong, Toby Jones, ei bod yn meddwl bod y llong yn dyddio o tua 1450.

"Daeth y llong i Gasnewydd yn hwyr yn y 1460au er mwyn cael ei atgyweirio," meddai.

"Ond cyn i hyn allu digwydd fe suddodd."

Nid yw'n sicr pwy oedd piau'r llong ond dywedodd Mr Jones y byddai angen rhywun cyfoethog i fedru fforddio adeiladu llong o'r fath.

"Mae'n llong fawr ar gyfer y cyfnod," meddai.

"Mae pob darn ohoni wedi ei wneud â llaw felly byddai wedi cymryd llawer o arian i'w hadeiladu.

Image copyright Other
Image caption Mae tua 2000 darn o bren o'r llong wedi eu recordio

"Rhaid mai rhywun cyfoethog iawn, neu rywun o statws brenhinol hyd yn oed, oedd y perchennog."

Mae Mr Jones o'r farn mai o'r cyfandir y daeth y llong yn wreiddiol, efallai o ardal Bae Gwasgwyn.

Darganfuwyd nifer o ddarnau arian o Bortiwgal ar y llong a hefyd un darn arian Ffrengig.

1447

Mae'r bathdy lle gwnaethpwyd y darn arian Ffrengig yn dal i fodoli, ac yn ôl ei archifau fe fathwyd y darn rhwng Mai a Mehefin 1447.

Mae esgidiau, cribau a chrochenwaith hefyd wedi cael eu darganfod.

Y nod yn y pen draw yw ailosod y llong at ei gilydd.

"Bydd yn cymryd tua dwy neu dair blynedd i sychu'r pren," meddai Mr Jones. "Ac yna rhwng tair a phedair blynedd i'w ail-adeiladu.

"Y gobaith yn y pen draw yw y bydd yn cael ei harddangos mewn amgueddfa yna yng Nghasnewydd."

Bydd nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn ystod y flwyddyn er mwyn dathlu'r pen-blwydd.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.