Damwain: Dyn yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Aed â dyn i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr wedi i'w fan adael y ffordd a tharo coeden.
Roedd y ddamwain ddydd Iau ar yr A470 rhwng Libanus ac Aberhonddu.
Cafodd dau griw o ddiffoddwyr o Aberhonddu eu galw a bu'n rhaid torri'r dyn yn rhydd o'i fan.
Roedd yr heol ynghau am ychydig o oriau a does dim manylion eto am ei gyflwr.