Cyhuddo chwech o gynllwynio

Canolfan reoli Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Dywedodd yr heddlu fod hwn wedi bod yn 'ymchwiliad hir'

Bydd chwech o bobl wedi eu cyhuddo o gynllwynio i gyflawni twyll gerbron Llys Ynadon Y Trallwng ar Fai 1.

Cafodd menyw rybudd ac ni fydd unrhyw gamau yn erbyn dau ddyn a menyw.

Mae'r rhai gafodd eu cyhuddo yn eu hugeiniau a'u tridegau ac o ardal Y Trallwng.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Diane Davies: "Mae hwn wedi bod yn ymchwiliad hir ac roedd y dioddefwyr ym Mhrydain a'r Iwerddon.

"Dylai unrhywun sy'n prynu nwyddau ar y we ddefnyddio system fel paypal sy'n cynnig rhywfaint o amddiffyn."