Carcharu tad am yrru'n beryglus wedi marwolaeth ei fab

  • Cyhoeddwyd
Alan Lloyd Paul EvansFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Ceisiodd oddiweddyd dau gar oedd eisoes yn mynd heibio cerbyd araf

Mae tad achosodd farwolaeth ei fab pump oed drwy yrru'n beryglus wedi cael ei garcharu.

Cafodd Alan Lloyd Paul Evans o Wrecsam 21 mis o garchar a'i wahardd rhag gyrru am bum mlynedd.

Clywodd Llys Y Goron Yr Wyddgrug y byddai'n rhaid iddo ymdopi ag effeithiau ofnadwy yr hyn ddigwyddodd am weddill ei fywyd.

Roedd Bailey Alan Evans yn sedd y teithiwr gyda gwregys arferol ac nid mewn sedd plentyn ac fe gafodd anafiadau difrifol i'w ben. Bu farw yn y fan a'r lle.

Roedd Evans yn gyrru car Citroen Saxo pan fu mewn gwrthdrawiad â char ar yr A483 ger Y Trallwng ar Fai 14 2011.

Dywedodd y Barnwr Niclas Parry fod marwolaeth Bailey yn "ofnadwy ac yn wastraff diangen o fywyd ifanc.

"Roedd hon yn drasiedi yr oedd modd ei hosgoi."

Pen-blwydd

Clywodd y llys fod Evans yn mynd â'i fab adref i Llanwnog ger Caersws ar ôl dathlu pen-blwydd y mab gyda'r teulu yng Nghroesoswallt.

Ceisiodd oddiweddyd dau gar oedd eisoes yn mynd heibio cerbyd araf.

Ond fe gollodd reolaeth ar gyflymder uchel, gan daro car oedd yn teithio i'r cyfeiriad arall.

Roedd ei wraig wedi dweud wrth yr heddlu ei fod yn yrrwr gofalus fel arfer a'i bod hi yn ymddiried ynddo i ofalu am eu mab.

Pan gafodd ei holi gan yr heddlu dywedodd Evans nad oedd ganddo unrhyw atgof am yr hyn wnaeth e ond ei fod yn derbyn beth ddywedodd gyrwyr eraill

91 mya

Yn ôl ymchwiliad yr heddlu, roedd Evans yn gyrru ar gyflymder o hyd at 91 mya.

Dywedodd bargyfreithiwr yr amddiffyniad, Andrew Jebb, fod Evans yn derbyn bod ei fwriad i oddiweddyd yn gwbl annoeth.

Clywodd y llys fod Evans wedi cael ei garcharu o'r blaen am yrru'n beryglus ac yn euog o yfed a gyrru.

Roedd pen Evans yn ei ddwylo yn ystod y gwrandawiad ddydd Gwener.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Clywodd y llys nad oedd ei fab mewn sedd plentyn yn y car

Dywedodd y barnwr ei fod wedi cymryd i ystyriaeth ei golled personol, ei fod wedi colli cannwyll ei lygaid.

"Dwi'n ymwybodol na fyddai'r un gosb y byddwn yn ei rhoi heddiw yn gallu adlewyrchu'r gosb yr ydych eisoes wedi ei dioddef," meddai.

Ychwanegodd nad oedd ganddo unrhyw amheuaeth y byddai'n methu yn ei ddyletswyddau cyhoeddus pe na bai'n nodi difrifoldeb yr hyn wnaeth y diffynnydd.

Byddai'n rhaid i Evans sefyll prawf gyrru estynedig.

Dim digon

Cyfeiriodd y barnwr at weithred ddifeddwl a gyrru annerbyniol. "Rydach chi a'ch gwraig wedi colli bachgen prydferth ac mae tair chwaer ifanc wedi colli brawd yr oedden nhw'n ei addoli."

Roedd Evans wedi sylweddoli cyn cychwyn ar y daith nad oedd ei fab wedi ei ddiogelu ddigon yn y car.

"Roedd eich mab yn gwbl ddibynnol arnoch chi i gael ei warchod ac mi wnaethoch chi wrthod y cyfrifoldeb er mwyn ceisio arbed ychydig funudau a rhoi defnyddwyr eraill ar y ffordd mewn perygl."

Wrth i Evans gael ei hebrwng i'r celloedd, fe waeddodd ei wraig, Teresa: "Dwi'n dy garu".

Yn ôl yr heddlu, roedd Evans yn gyrru ar gyflymder o rhwng 72 mya a 91 mya.