Cymdeithas Morrisiaid Môn yn chwilio am gyfarwyddwr

Dafydd Wyn Wiliam yn torri eithin ger cofgolofn y Morrisiaid ym Mhentre-eiriannell, Ynys Môn. Llun trwy garedigrwydd JR Williams ar ran Cymdeithas Morrisiaid Môn Image copyright Other
Image caption Dafydd Wyn Wiliam yn torri eithin ger cofgolofn y Morrisiaid ym Mhentre-eiriannell, Ynys Môn

Mae cymdeithas ddiwylliannol sydd wedi bod o dan ofal yr un cyfarwyddwr ers ei sefydlu yn 1997 nawr yn chwilio am olynydd.

Y Parchedig Ddr Dafydd Wyn Wiliam sydd wedi bod yn gyfarwyddwr Cymdeithas Morrisiaid Môn ers ei sefydlu ar 12 Ebrill 1997.

Ef hefyd yw golygydd cylchgrawn y gymdeithas, Tlysau'r Hen Oesoedd, sy'n cael ei gyhoeddi ddwywaith y flwyddyn.

Fe fydd Dr Wiliam yn rhoi heibio ei swyddi gydag ymddangosiad rhifyn Ebrill 2013 y cylchgrawn.

Roedd Morrisiaid Môn, sef y brodyr Lewis (1701-65), Richard (1703-79), William (1705-63) a Siôn (1713-40), yn adnabyddus fel ysgolheigion a llenorion yn ystod y 18fed ganrif.

'Trichanmlwyddiant'

Dywedodd Dr Wiliam: "Dwi wedi cyrraedd oedran reit barchus ac mae'r corff a'r meddwl yn dweud wrthyf yn garedig i arafu a phwyllo.

"Hefyd erbyn hynny fe fyddwn wedi dathlu trichanmlwyddiant geni pob un o'r brodyr.

Image copyright Not Specified
Image caption Cofeb i'r Morrisiaid yn Nyddyn Melys, Capel Coch

"Dwi ddim yn disgwyl i fy olynydd ddilyn fy mhatrwm i. Dwi'n perthyn i'r oes o'r blaen, heb y rhyngrwyd ac e-bost".

Dywedodd ei fod yn hyderus ynghylch dyfodol y gymdeithas, gan fod ganddi "aelodau teyrngar a deallus".

Ei obaith yw y bydd y cylchgrawn hefyd yn parhau, ond "baswn i ddim yn beio fy olynydd pe bai'n dewis peidio â chyhoeddi cylchgrawn".

Ychwanegodd: "Roedd Lewis Morris yn awyddus i sefydlu cylchgrawn i gyhoeddi trysorau ein llên, ac mae'r gymdeithas wedi ceisio gwireddu ei weledigaeth.

"Byddaf yn fwy na bodlon i helpu fy olynydd i'r eithaf pe bai'n gofyn i mi".

'Cwbl nodedig'

Dywedodd ysgrifennydd y gymdeithas, Ken Owen: "Mi fu cyfraniad Dafydd Wyn Wiliam i Gymdeithas Morrisiaid Môn yn gwbl nodedig.

Image copyright Other
Image caption Lewis Morris oedd yr hynaf a'r galluocaf o'r brodyr

"Bu'n olygydd ar gylchgrawn y Gymdeithas, Y Tlysau, ers y cychwyn cyntaf, a thraddododd nifer o ddarlithoedd neilltuol dros y blynyddoedd.

"Does neb yn fwy gwybodus am hanes y Morrisiaid na Dafydd, a'n braint fu gallu manteisio ar ei ysgolheictod disglair ers sefydlu'r Gymdeithas yn ôl yn 1997.

"Gwaith anodd dros ben i rywun fydd dilyn yn ôl troed Dafydd ond rydym yn hyderus y daw rhywun i'r adwy".

'Hyrwyddo ymchwil'

Mae gan y gymdeithas tua 150 o aelodau a'i diben yw "hyrwyddo ymchwil i bob agwedd ar weithgareddau diwylliannol ac ysgolheigaidd y Morrisiaid, er enghraifft, barddoniaeth, cerddoriaeth, hen draddodiadau Ynys Môn, llysieueg, ac i barhau â'r gweithgaredd hwnnw".

Fe wnaeth Lewis Morris, y brawd hynaf, ragori fel bardd, ysgrifennwr rhyddiaith, ysgolhaig a syrfëwr tir a môr.

Daeth hefyd yn un o brif hyrwyddwyr yr adfywiad clasurol mewn dysg a llên yng Nghymru yn ystod y 18fed ganrif.

Rhagorodd Richard hefyd fel prif golofn Cymdeithas y Cymmrodorion a sefydlwyd yn Llundain yn 1751; William fel naturiaethwr; a Siôn fel llongwr.

Mae'r gymdeithas hefyd yn trefnu darlithoedd achlysurol, ac ar ddydd Sadwrn Ebrill 21 fe fydd Eurig Salisbury, Bardd Plant Cymru, yn traddodi darlith yn Eglwys Biwmares ar y pwnc: "Rhwyfo'r tannau: Guto'r Glyn ym Môn'.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.