Llys: Menyw mewn 'panig mawr'
- Cyhoeddwyd

Mae llys wedi clywed bod menyw yr honnir iddi gael ei threisio gan ddau bêldroediwr proffesiynol wedi cyrraedd tŷ ei ffrind y bore ar ôl yr ymosodiad honedig mewn 'cyflwr o banig'.
Eisoes mae chwaraewr Cymru a Sheffield United, Ched Evans, ac amddiffynnwr Port Vale, Clayton McDonald, y ddau'n 23 oed, wedi gwadu'r ymosodiad yng ngwesty'r Premier Inn yn Rhuddlan ger Y Rhyl.
Yn Llys y Goron Caernarfon dywedodd ei ffrind fod y fenyw'n llefain yn ddi-baid ac "yn cael gwaith anadlu".
'Ddim yn cofio'
Fe archebodd y ffrind dacsi ar ei chyfer fel y gallai fynd â hi i gartref ei mam.
"Doedd hi ddim yn gallu cofio gyda phwy yr aeth hi i'r gwesty".
Mae'r llys wedi clywed bod Mr Evans, o Penistone, De Sir Efrog, a Mr McDonald o Crewe yn Sir Gaer wedi dweud wrth yr heddlu eu bod wedi cael rhyw gyda'r achwynydd, oedd yn 19 ar y pryd, nad oes modd ei henwi am resymau cyfreithiol.
Ond mae'r erlyniad wedi honni nad oedd hi mewn stad i gydsynio.
Mae disgwyl i'r achos barhau tan yr wythnos nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2012