BBC Cymru Fyw

Uwchgynghrair Cymru

Published
image copyrightNot Specified

Bydd Bangor yn ymweld â'r Seintiau Newydd ar ddiwrnod ola' Uwch-Gynghrair Cymru gyda'r ddau dîm yn gobeithio cael eu coroni'n bencampwyr.

Ar ôl ennill yn Y Bala ddydd Sul o gôl i ddim, mae'r Seintiau'n parhau â dau bwynt o fantais dros Y Dinasyddion, oedd yn fuddugol o dair i un yng Nghastell-nedd.

Canlyniad nos Wener:

Aberystwyth 2-0 Airbus

Roedd hi'n ddi-sgôr ar yr egwyl ond sgoriodd Thornton gôl gyntaf Aberystwyth gyda chic o'r smotyn wedi 56 munud.

Dyblodd Kellaway y fantais i Aberystwyth ym munud ola'r ornest i selio'r fuddugoliaeth i'r tîm cartref.

Dydd Sadwrn

Caerfyrddin 3-2 Lido Afan

Llanelli 3-2 Prestatyn

Y Drenewydd 2-2 Port Talbot

Er iddyn nhw gael gêm gyfartal yn erbyn Port Talbot, ma' canlyniadau eraill yn golygu y bydd y Drenewydd mwy na thebyg yn gadael Uwch-Gynghrair Cymru ar ddiwedd y tymor.

Dydd Sul

Castell-nedd 1-3 Bangor

Bala 0-1 Seintiau Newydd

TABL UWCHGYNGRHAIR CYMRU

Straeon perthnasol

  • Llanelli yn curo'r Bala oddi cartref