Damwain: Diffoddwyr tân yn yr ysbyty

Injan dân mewn cae ym Mhennal Image copyright Other
Image caption Cafodd y ddau ddiffoddwr tân eu cludo i'r ysbyty gyda mân anafiadau

Cafodd dau ddiffoddwr tân eu cludo i'r ysbyty wedi i'r injan dân roeddent yn teithio ynddi fod mewn damwain yng Ngwynedd brynhawn dydd Gwener.

Roedd yr injan dân yn teithio o Fachynlleth i Aberdyfi ar ffordd yr A493 pan ddigwyddodd y ddamwain ym mhentref Pennal tua 5.20pm.

Y gred yw bod yr injan dân yn dychwelyd i orsaf dân Aberdyfi pan adawodd y ffordd a throi ar ei hochr mewn cae.

Cafodd y ddau ddiffoddwr tân, sy'n aelodau o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu cludo i ysbyty yn Nhywyn gyda mân anafiadau.

Cafodd y ddau aelod arall o'r criw eu trin yn y fan a'r lle.

Mae diffoddwyr tân o Fachynlleth a phlismyn Heddlu Gogledd Cymru yn cynnal ymchwiliad i'r ddamwain.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.