BBC Cymru Fyw

Cerddwr mewn gwrthdrawiad â fan yng Nghastell-nedd

Published
Mae Heddlu'r De yn apelio am dystion ar ôl i ddyn gael ei anafu mewn gwrthdrawiad â fan yng Nghastell-nedd.
Cafodd y cerddwr 53 oed ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd gydag anafiadau difrifol i'w ben.
Digwyddodd y ddamwain tua 5:15pm ddydd Gwener ar Stryd Alfred.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 01792 456999.