Anafiadau difrifol wedi damwain Llanuwchllyn
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid cau ffordd yr A494 rhwng Y Bala a Llanuwchllyn, Gwynedd am gyfnod nos Wener yn dilyn damwain car.
Doedd 'na'r un car arall yn rhan o'r ddamwain, ddigwyddodd tua 11pm.
Aethpwyd â dau ddyn yn eu hugeiniau i'r ysbyty.
Mae'r heddlu yn dweud fod anafiadau un ohonyn nhw yn ddifrifol ond ddim yn peryglu'i fywyd.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol