Barnsley 0-1 Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Chwaraewr canol cae Caerdydd Don Cowie yn brwydro gyda Scott Wiseman o Barnsley
Mae'r Adar Gleision wedi ymestyn eu rhediad diguro i saith gêm ar ôl buddugoliaeth bwysig yn Barnsley.
Liam Lawrence, y chwaraewr canol cae sydd ar fenthyg, sgoriodd yr unig gôl wedi 69 munud, gyda pheniad o groesiad Andrew Taylor.
Heblaw hynny, Peter Whittingham ddaeth agosaf at sgorio, gyda chic rydd bwerus yn yr hanner cyntaf.
Er i Barnsley gael digonedd o feddiant, prin iawn oedd eu cyfleoedd mewn gêm anniben.
Mae Caerdydd yn dal yn y chwech ucha' yn y Bencampwriaeth gyda'u gobeithion o chwarae yn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor yn dal yn fyw.