Gemau cyfartal i Wrecsam a Chasnewydd
- Cyhoeddwyd

Wrecsam 2-2 Grimsby
Caerefrog 1-1 Casnewydd
Daeth cadarnhad mai'r gemau ail-gyfle fydd hi i Wrecsam - canlyniad cyfartal iddyn nhw ac i Gasnewydd yn Uwchgynghriar Blue Square sydd wedi cael ei hennill, yn ôl y disgwyl, gan Fleetwood.
Roedd gôl gyntaf Andi Thanoj ar y lefel yma i Grimsby yn sicrhau gêm gyfartal ac na fyddai modd i Wrecsam ennill dyrchafiad yn awtomatig.
Roedd Chris Westwood yn credu ei fod wedi sicrhau buddugoliaeth i'r Dreigiau ar ôl ergyd yn y 72ain munud.
Jake Speight roddodd y tîm cartref ar y blaen cyn i Anthony Elding ddod a'r ymwelwyr yn gyfartal.
Fe wnaeth Casnewydd roi ergyd i obeithion Caerfaddon o sicrhau lle yn y gemau ail-gyfle.
Mae Caerfaddon yn y lle olaf ar gyfer y gemau, ddau bwynt yn well na Southport.
Mae Casnewydd yn dal i geisio sicrhau eu lle uwch ben y timau all adael y gynghrair ar ddiwedd y tymor.
Yr ymwelwyr aeth ar y blaen wedi i Nat Jarvis, sydd ar fenthyg o Gaerdydd, benio wedi pedwar munud.
Ond daeth y tîm gartref yn gyfartal gydag ergyd gan Jason Walker wedi 59 munud.
Ebrill 16 2012