BBC Cymru Fyw

Clwydi metel wedi cael eu dwyn

Published
image copyright(C) British Broadcasting Corporation
image captionDylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth ar ôl i nifer o glwydi metel gael eu dwyn o fynedfeydd tai yn Sir Ddinbych.
Cafodd y clwydi eu dwyn o dai yn ne Rhyl a Rhuddlan rhwng 3:00am a 6:00am ddydd Sadwrn.
Mae Heddlu'r Gogledd yn dweud bod dyn yn gyrru fan LDV Sherpa, gyda chaban gwyn a dyluniad melyn ar y drws, wedi ei weld yn yr ardal.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101.

Straeon perthnasol

  • Ymgyrch i daclo lladradau metel