Prosiect newydd am warchod y wiwer goch yn Sir Gâr
- Cyhoeddwyd

Mae cynllun newydd i warchod y wiwer goch wedi dechrau yng Ngogledd-ddwyrain Sir Gâr.
Yn yr ardal mae un o dair poblogaeth allweddol y rhywogaeth yng Nghymru a'r un olaf yn y de.
Eisoes mae Prosiect y Wiwer Goch Canolbarth Cymru wedi derbyn £12,000 oddi wrth Amgylchedd Cymru fel bod modd hybu cadwraeth.
Mae'r wiwer wedi goroesi'n hirach yn yr ardal oherwydd amgylchedd Coedwig Tywi.
Arolwg
Dywedodd Isabel Macho, un o swyddogion bioamrywiaeth Cyngor Sir Gaerfyrddin: "Rydym yn ffodus iawn fod y wiwer goch yn dal i fodoli yn y sir ac un o'n blaenoriaethau yw eu gwarchod."
Mae'r arian yn golygu y bydd modd cynnal arolwg yn Nyffrynnoedd Cothi a Gwenffrwd.
Hefyd bydd y cynllun yn cefnogi rhaglen i reoli nifer y wiwer lwyd.
Dywedodd Dr Lizzie Wilberforce o Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru: "Yn anffodus, mae'r wiwer lwyd wedi disodli'r wiwer goch sy'n gynhenid i Brydain."
Cyflwynwyd 350 o wiwerod llwyd yn Lloegr, yn Sir Bedford, yn 1889.
Oddi yno maen nhw wedi lledu dros y rhan fwyaf o Gymru a Lloegr ar draul y wiwer goch frodorol.
140,000
Amcangyfrifir bod 140,000 yn unig o wiwerod coch ar ôl ym Mhrydain a bod 2.5 miliwn o wiwerod llwyd.
Mae'r wiwer lwyd yn fwy o faint na'r wiwer goch.
Dywedodd Huw Denman, aelod o Brosiect y Wiwer Goch Canolbarth Cymru: "Gall newidiadau bach i'r ffordd y mae coetiroedd yn cael ei rheoli, fel newid cyfrannau'r rhywogaethau coed sy'n cael eu plannu, wneud gwahaniaeth mawr i ddyfodol y wiwer goch."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2009