'Allforio yw'r allwedd i hybu'r economi'
- Cyhoeddwyd

Canolbwyntio ar allforio i'r farchnad ryngwladol yw'r ffordd i hybu twf economaidd yn ôl Siambr Fasnach De Cymru.
Mewn dogfen sy'n cael ei chyhoeddi ddydd Mawrth, dywed y siambr fod angen cefnogi busnesau o Gymru i ehangu i farchnadoedd newydd dramor, ac maen nhw'n nodi sut y maent yn credu y dylid gwneud hynny.
Un o'r prif ddulliau yw creu Canolfan Ragoriaeth Ryngwladol lle byddai Llywodraeth Cymru ac asiantaethau cefnogi busnes presennol yn gweithio gyda'i gilydd i rannu gwybodaeth sydd o fudd i fusnesau sy'n ceisio cymryd eu camau cyntaf i'r marchnadoedd rhyngwladol.
Mae'r Siambr yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynorthwyo er mwyn creu llwybrau newydd drwy Faes Awyr Caerdydd i'r marchnadoedd allweddol yng Ngogledd America a'r Dwyrain Canol, ynghyd ag annog mwy o fuddsoddiad i Faes Awyr Caerdydd o safbwynt isadeiledd.
'Pwysau gwleidyddol'
Ymhlith yr argymhellion eraill mae :-
- Cynyddu'r nifer o deithiau masnach i wledydd pwysig;
- Galw am gredyd masnach i gwmnïau sy'n allforio er mwyn medru ehangu eu gweithredoedd;
- Sicrhau bod busnesau bach a chanolig eu maint yn ymwybodol o'r gefnogaeth sydd ar gael iddynt.
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Siambr Fasnach De Cymru, David Russ:
"Mae taith fasnach ddiweddar Carwyn Jones i India a thaith David Cameron i Dde-ddwyrain Asia yn dangos faint o bwysau gwleidyddol sydd y tu ôl i gryfhau ein cysylltiadau allforio.
"Mae'r farchnad allforio yn bwysig iawn i economi Cymru.
"Bu cynnydd yn yr allforion o Gymru yn y 12 mis hyd at Fehefin 2011 o 31.4% - cynnydd aruthrol i'r gymharu â 6.6% yn Yr Alban, 14.9% yn Lloegr ac 11.4% yng Ngogledd Iwerddon.
"Yn yr hinsawdd economaidd bresennol mae'n rhaid i fusnesau o Gymru dargedu marchnadoedd y tu allan i Gymru er mwyn goroesi, ac rydym yn credu y gallwn gael adfywiad economaidd yng Nghymru drwy gefnogi hyn."
Positif
Mae'r ddogfen hefyd yn galw am fesurau penodol fydd yn cael effaith tymor hir ar dwf economaidd, gan gynnwys:-
- Datblygu ffyrdd ar yr M4 o gwmpas Casnewydd i ysgafnhau'r pwysau ar y ffordd bresennol;
- Cefnogi Morglawdd yr Hafren cyn belled bod hynny'n cynnwys cyswllt ffyrdd a rheilffordd;
- Gwella'r rheilffyrdd yn ne Cymru a chreu cyswllt uniongyrchol rhwng prif lein Great Western a maes awyr Heathrow;
- Annog Llywodraeth Cymru i anelu am gyswllt band eang o 50 MB/eiliad erbyn 2015 yn hytrach na'r targed presennol o 30 MB/e.
Ychwanegodd Mr Russ mai nod y Siambr Fasnach oedd canolbwyntio ar bethau positif, ond hefyd i gadw'r pwysau ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod anghenion busnesau yng Nghymru ar frig ei restr flaenoriaethau.
Straeon perthnasol
- 14 Mawrth 2012
- 31 Ionawr 2012