Menyw wedi marw mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd

Mae menyw yn ei saithdegau wedi ei lladd mewn gwrthdrawiad yn Llandrillo-yn-Rhos brynhawn Llun.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 3:36pm wedi i gar Jaguar glas daro dwy fenyw oedd yn cerdded ger siop yn Ffordd y Rhos.
Bu farw un o'r menywod yn y fan a'r lle o ganlyniad i'w hanafiadau.
Cafodd y llall ei chludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol. Roedd y ddwy yn byw'n lleol.
Fe gafodd gyrrwr y car Jaguar ei gludo i'r ysbyty ond credir nad yw ei anafiadau yntau yn ddifrifol. Roedd y gyrrwr yn ddyn lleol.
Mae'r gwasanaethau brys yn debyg o fod yno am rai oriau.
Cafodd y promenâd yn Llandrillo-yn-Rhos ei gau am gyfnod ac mae'r crwner wedi cael ei hysbysu.
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio ar unrhyw un welodd y gwrthdrawiad neu sydd â gwybodaeth allai fod o gymorth i gysylltu gyda'r Uned Blismona Ffyrdd yn Llanelwy ar 101.