'Torri record'

  • Cyhoeddwyd
Gwifren wibFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Y cwmni: 'Y bwriad yw creu 20 o swyddi a denu 30,000 o ymwelwyr y flwyddyn'

Fe fydd y wifren wib hiraf yn Ewrop yn cael ei chodi yn Chwarel y Penrhyn ym Methesda.

Penderfynodd Cyngor Gwynedd gymeradwyo'r cynllun £500,000 brynhawn Llun.

Dywedodd cwmni Zip World eu bod yn gobeithio agor yr atyniad cyn diwedd yr haf.

"Y bwriad yw creu 20 o swyddi a denu 30,000 o ymwelwyr y flwyddyn," meddai llefarydd ar ran y cwmni.

"Hon fydd y gynta ond rydym yn gobeithio y bydd mwy ym Mhrydain."

Mae'r cais yn cyfeirio at ddau gwrs, maes parcio ag 81 o leoedd, a chodi adeilad pren fydd yn dderbynfa/swyddfa.

1500 metr

Fe fydd yr atynfa mewn rhan o'r hen chwarel, ar dir wedi ei adennill.

Dywedodd y cwmni y byddai'r cwrs byr yn 450 metr o hyd a'r un hir yn 1500 metr o hyd.

"Wedi cwblhau'r cwrs byr mae'r defnyddwyr yn cael eu cludo mewn cerbydau arbenigol i ran uchel o'r chwarel at fan cychwyn y cwrs hir ... sydd yn gorffen yn agos i fan cychwyn y cwrs byr," meddai'r cais cynllunio.

Hanes

Wrth ddringo i'r rhan uchel bydd defnyddwyr yn cael gwybod am hanes y chwarel cyn teithio ar gyflymder o hyd at 70 filltir yr awr i lawr y cwrs hir.

Sean Taylor o Tree Tops Adventure ym Metws-y-coed gyflwynodd y cynllun o dan enw Zip World.

Mae 'na sôn am y posibilrwydd o godi un yn Chwarel y Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog.