Llys: Menyw 'yn rheoli ei hun'
- Cyhoeddwyd

Mae llys wedi clywed bod peldroediwr, un o ddau ar gyhuddiad o dreisio, wedi dweud wrth yr heddlu fod y fenyw dan sylw yn rheoli ei hun.
Yn Llys y Goron Caernarfon mae chwaraewr Cymru a Sheffield United, Ched Evans, ac amddiffynnwr Port Vale, Clayton McDonald, y ddau'n 23 oed, wedi gwadu'r ymosodiad yng ngwesty'r Premier Inn yn Rhuddlan ger Y Rhyl.
Mae'r ddau wedi dweud bod y fenyw, oedd yn 19 oed ar y pryd, wedi cytuno i gael rhyw ond dadl yr erlynydd yw nad oedd hi mewn stad i gydsynio.
Clywodd y rheithgor fod Mr McDonald wedi dweud wrth yr heddlu nad oedd hi'n siarad yn aneglur nac yn cwympo ymhobman.
Yn y llys darllenwyd cyfweliadau'r heddlu â Mr Mcdonald o Lerpwl oedd wedi dweud bod Mr Evans o Lanelwy wedi ei wahodd i'r Rhyl ar benwythnos Gŵyl y Banc.
Ffrwgwd
Roedd Mr Macdonald wedi dweud iddo gyfarfod â'r achwynydd yn oriau mân dydd Llun, Mai 30, 2011 pan oedd y peldroedwyr a ffrindiau yn sefyll ger siop fwyd parod.
Pan ddechreuodd ffrwgwd yn y cyffiniau penderfynodd Mr McDonald gilio.
"Roeddwn i am fynd adre," meddai, "ac yn chwilio am dacsi."
Ar gornel gofynnodd i'r fenyw ble yr oedd hi'n mynd, meddai. Ei hateb oedd: "Ble wyt ti'n mynd?"
Dywedodd iddo ddweud ei fod yn mynd i'r gwesty a'i bod hi wedi dweud: "A fi hefyd."
Roedd hi'n cario blwch pizza, meddai. "Doedd hi ddim yn cwympo ymhobman."
Pe bai hi mewn stad, meddai, fe fyddai wedi dal y tacsi ar ei ben ei hun.
'Cydio'
Yn y gwesty, meddai, eisteddon nhw ar y gwely. "Cydiodd hi ynof i a wedyn cydiais i ynddi hi," meddai.
Yn yr orsaf heddlu pan ofynnodd plisman iddo a oedd wedi gofyn a oedd hi eisiau cael rhyw ei ateb oedd: "Wnaeth e jyst digwydd, yn syth. Cydiodd hi ynof i a 'nhynnu i'n nes."
Ynghynt dywedodd Sohail Aslam, perchennog siop cebab y Godfather yn Y Rhyl, wrth y llys fod y fenyw yn "feddw iawn" a'i bod hi wedi cwympo ddwy neu dair gwaith yn ei siop.
"Doedd hi ddim yn arfer bod mor feddw â hynny ond roedd hi'n feddw iawn y noson honno," meddai.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2012