Gwarchod ardaloedd morol Cymru

  • Cyhoeddwyd
Bywyd MôrFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Mae dros draean o ddyfroedd Cymru wediu dynodi'n ardaloedd gwarchod

Mae grŵp o bum sefydliad amgylcheddol yn croesawu cynnydd wrth wella'r ffordd y gwarchodir y môr o gwmpas Cymru.

Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus Llywodraeth Cymru, a lansiwyd ganol mis Ebrill, yn rhoi'r cyfle i bobl sy'n defnyddio'r môr a chymunedau arfordirol rannu eu barn ar leoliadau posibl a gynigir ar gyfer ardaloedd gwarchodedig newydd a elwir Parthau Cadwraeth Morol yng Nghymru.

Disgwylir y bydd rhagor o ymgynghori drwy gydol 2013, ac mae Gweinidogion Cymru i fod i ddynodi safleoedd yng ngwanwyn 2014.

Mae mwy na 36% o ddyfroedd tiriogaethol Cymru wedi'u dynodi'n Ardaloedd Morol Gwarchodedig ar hyn o bryd, ond mae rheoli annigonol yn golygu bod nifer o'r ardaloedd pwysig hyn yn methu â gwarchod y cynefinoedd a'r rhywogaethau y cynlluniwyd iddynt eu diogelu.

Bydd Parthau Cadwraeth Morol yn ychwanegu haen ychwanegol o warchodaeth i ddyfroedd Cymru, gan ddarparu'r safleoedd gwarchodedig iawn cyntaf lle na chaniateir unrhyw weithgareddau niweidiol.

'Cam cyntaf'

Dywedodd Dr Iwan Ball, Cadeirydd Gweithgor Morol Cyswllt Amgylchedd Cymru: "Mae Cyswllt Amgylchedd Cymru'n croesawu'r ymgynghoriad fel cam cyntaf i ganiatáu i foroedd Cymru wrthdroi'r dirywiad o ran ein cynefinoedd a'n rhywogaethau mwyaf gwerthfawr, ond rydym wedi'n siomi gan y diffyg uchelgais sy'n cael ei ddangos eisoes gan Lywodraeth Cymru wrth gyfyngu ar faint a nifer yr ardaloedd gwarchodedig hyn.

"Mae'n hanfodol bod Parthau Cadwraeth Morol yn y lleoliadau gorau posibl i warchod a diogelu cynefinoedd morol mwyaf gwerthfawr a bregus Cymru; mae dynodi'r safleoedd iawn yn hanfodol ac ni ddylai gael ei gyfaddawdu er budd economaidd.

"Rydym hefyd yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y caiff yr Ardaloedd Morol Gwarchodedig sy'n bodoli eisoes yng Nghymru eu rheoli'n well yn y dyfodol, gan eu bod mewn perygl o beidio â gwarchod y bywyd gwyllt morol toreithiog a'r amrywiaeth ryfeddol o gynefinoedd maen nhw'n ceisio eu gwarchod".

£2.5 biliwn

Mae'r môr o gwmpas Cymru'n cyfrannu oddeutu £2.5 biliwn i economi Cymru bob blwyddyn - ac mae cyfran fawr o hyn yn dod o dwristiaeth.

Dywed Cyswllt Amgylchedd Cymru fod Ardaloedd Morol Gwarchodedig a reolir yn dda yn hanfodol bwysig, ynghyd â mesurau rheoli morol fel cynllunio morol a rheoli pysgodfeydd, i gynnal moroedd amrywiol eu bioleg a chynhyrchiol yng Nghymru.

Bydd hyn yn bwysig nid yn unig er mwyn gwarchod bywyd gwyllt ond hefyd i gefnogi'r economi morol a'r frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

Mae'r Cyswllt yn galw ar y cyhoedd a phobl sy'n defnyddio'r môr i ddangos eu bod yn cefnogi Ardaloedd Morol Gwarchodedig drwy ymweld â'r wefan berthnasol.

Mae'r Ymgyrch Forol yn cael ei rhedeg gan Weithgor Morol y Cyswllt, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Ymddiriedolaethau Natur Cymru, WWF Cymru, RSPB Cymru, Cymdeithas Cadwraeth y Môr a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol