Dan Biggar yn debygol o aros gyda'r Gweilch

Dan Biggar Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae Biggar wedi ennill naw cap dros Gymru

Bydd maswr Y Gweilch, Dan Biggar, yn debygol o wrthod unrhyw gynnig i adael y rhanbarth yn ôl hyfforddwr y blaenwyr, Jonathan Humphreys.

Mae Biggar, 22 oed, eisoes wedi gwrthod cynnig gan y clwb o Ffrainc Racing Metro 92 ac mae'r Gweilch yn gobeithio y bydd yn chwarae iddyn nhw am flynyddoedd eto.

"Does dim dwywaith na fydd Dan yn gadael," meddai Humphreys.

"Mae'n wir i ddweud fod timau ar ei ôl, ond mae gan Dan gytundeb gyda ni ac mae e'n hapus iawn yma."

Pwysau ariannol

Bydd y Gweilch yn colli Tommy Bowe (Ulster), Huw Bennett (Lyon), Nikki Walker (Caerwrangon) a Tom Smith (Gwyddelod Llundain) i glybiau eraill ar ddiwedd y tymor.

Mae clybiau Ffrainc wedi cymryd diddordeb mewn rhai o chwaraewyr gorau Cymru gan gymryd mantais o'r pwysau ariannol mae'r pedwar rhanbarth Cymreig yn eu hwynebu.

Ond mae Humphreys yn ffyddiog nad yw Biggar yn bwriadu gadael y Gweilch a mynnodd fod y maswr, sydd wedi chwarae naw o weithiau dros Gymru, yn rhan o'u cynlluniau tymor hir.

"Mae e'n chwarae ei rygbi gorau ers amser," meddai Humphreys.

"Mae Dan yn caru chwarae i'r rhanbarth.

"Mae ganddo gytundeb i chwarae i'r Gweilch am flwyddyn arall ac rwy'n gobeithio y bydd yma am gyfnod lawer hirach na hynny."

Chwaraeodd dros y Gweilch am y 100fed tro ddydd Sadwrn pan guron nhw'r Gleision 33-12 yng Nghynghrair y Pro12.

Biggar yw'r chwaraewr ieuengach i chwarae 100 gwaith dros y Gweilch ac mae wedi sgorio mwy o bwyntiau na neb arall i'r rhanbarth (964).

Er hynny mae rhai o ddilynwyr y Gweilch yn feirniadol ohono a bu'n rhaid i brif hyfforddwr y rhanbarth Andrew Hore ofyn i gefnogwyr rhoi'r gorau i wadio'r maswr.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.