Arbenigwr: 'Arferiad' cynnau tanau gwair
- Cyhoeddwyd

Mae'n arferiad i rai pobl gynnau tanau gwair mewn rhannau o Gymru, yn ôl arbenigwr ar goedwigoedd.
Dywedodd Jake Morris o Gomisiwn Coedwigaeth Cymru fod rhai pobl ifanc yn meddwl bod hyn yn hwyl ac yn rhywbeth yr oedd eu rhieni yn arfer ei wneud.
Mae'n manylu ar ei ddamcaniaeth ar raglen BBC Radio 4, Costing the Earth, ddydd Mawrth.
Fe yw un o awduron adroddiad gafodd ei gyhoeddi'r llynedd oedd yn beio pobl ifanc mewn ardaloedd difreintiedig am gynnau miloedd o danau gwair yn ne Cymru rhwng 2000 a 2008.
"Os ydych yn siarad â phobl leol maen nhw'n dweud bod cynnau tân yn arferiad ymhlith eu rhieni neu gyndeidiau."
'Seiren'
Dywedodd Dave Burton, swyddog tân o Bont-y-clun yn Rhondda Cynon Taf fod "diflastod" yn ffactor ymhlith pobl ifanc sy'n cynnau tân.
"Fel diffoddwyr rydym yn fwy ymwybodol o hyn," meddai.
"Rydym wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio seiren mor aml. Y nod yw peidio â gwneud môr a mynydd o'r peth.
"Wrth geisio addysgu plant yn yr ysgolion, rydym yn ceisio mynd i'r afael â'r broblem."
Damwain
Yn y cyfamser, mae wedi dod i'r amlwg mai damwain oedd yn gyfrifol am dân ar fynydd ym Mhontardawe ddydd Llun.
Bu 25 o ddiffoddwyr yn ceisio rheoli'r tân ar Fynydd Marchywel am 7pm.
Yng Nghymru mae'r gwasanaeth tân wedi derbyn cannoedd o alwadau yn ymwneud â thanau gwair.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mai 2011
- Cyhoeddwyd4 Mai 2011
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2011